top of page

Mae Elin yn argraffwr o Fachynlleth, Canolbarth Cymru.​

​

Yn ystod ei gradd Celf Gain UWIC, Howard Garden (2000-2003), arbenigodd Elin mewn argraffu, lle cwympodd mewn cariad gyda'r grefft o argraffu, y wasg, yr incs, arogl y stafell argraffu, y prosesau amrywiol sydd i'w ddysgu i greu platiau argraffu sy'n gallu cael euhail argraffu tan gallwch greu darn o waith unigryw. 

​

Mae gan Elin ddiddordeb mewn darlunio tirluniau Cymru,  y bryniau, mynyddoedd, coed, a'r bywyd gwyllt sy'n gwneud ei chartref yn arbennig iddi hi. Hoffai archwilio y cysylltiad sydd genym gyda'r tir a sut mae hyn yn ein siapio ni. 

Mae ganddi hefyd ddiddordeb mewn portreadu y pobl sydd a chysylltiadau cryf gyda'r tir mewn ffyrdd amrywiol; y merchaid a'r dynion sy'n gweithio o fewn a gyda'r tir. Mae hi'n cwestiynnu beth sy'n arbennig am y tirlun hyn, beth sy'n ein cadw ni yma, a pham bod gennym gysylltiad mor gryf gyda'r tirwedd.

​

Hefyd hoffai ddarlunio merchaid ymarferol cefn gwlad, y merchaid sy'n gallu troi eu llaw at unrhywbeth, y merchaid cryf sy'n gallu addasu o newid clwt yn y bore i blingo oen yn y prynhawn. Y merchaid sydd ddim yn cael eu cynrychioli. 

Dyma'r merchaid sy'n dylanwadu Elin dydd i ddydd fel merchadi fferm, ffrindiau a mamau. Mae Elin yn hoffi gwrando a'r sgyrsiau, sylwi a'r arferion dyddiol, ffocysu ar y manylion, y dydd i ddydd, y pethau diflas hyd yn oed. 

 

Ar hyn o bryd, mae Elin yn astudio MA mewn Celf Gain ym Mhrifysgol Aberystwyth, ac yn gobeithio datblygu ei sgiliau argraffu ac archwilio cysyniadau newydd. Mae Elin yn awyddus i gysegru ei hamser i greu gwaith sy'n ddilys ac wedi deillio o'u dylanwadau dyddiol.

​

Mae Elin yn byw mewn cymuned cefn gwlad yn Sir drefaldwyn wedi ei hamgylchynu gan bobl sy'n gweithio'r tir. Dyma'r pobl sy'n cael eu disgrifio fel 'Mwynder Maldwyn', sy'n rhywbeth mae hi'n falch iawn ohono. Mae hi'n hynod o ddiolchgar i allu byw ym Mro Ddyfi sydd, fel rhan o fiosffer dyfi, a chynefinoedd amrywiol: Y môr, twyni tywod, traethau, corsydd, coedwigoedd, mawndiroedd a thir ffermio. Mae anifeiliaid a phlanhigion unigryw yma; dyfrgwn, gweilch, y barcud coch, dolffiniaid, yr hebog, a'r 'Rosy marsh moth' i enwi rhai mewn cyfoeth o fywyd gwyllt sy'n ei hysbrydoli bob dydd. 

bottom of page