top of page
  • elincrowley

AIL YMWELD Â HEN WAITH

Wrth i mi wthio ymlaen, yn arbrofi gyda defnyddiau a chysyniadau, dwi'n sylweddoli fy mod yn ail feddwl syniadau ges i tra'n neud fy ngradd 20 mlynedd yn ôl. Mae'n teimlo fel cylched lawn wrth i'r run deimladau danio eto. Pwysigrwydd teulu, ffermio, cymuned, cysylltiadau a thraddodiad.


Ffindies i y darnau bach yma mewn cwpwrdd tra'n edrych am ysbrydoliaeth. Hen luniau wedi eu trsglwyddo ar ddefnydd. Yna fe grafais ddelweddau o eiconau Cymreig ar ddarnau o berpex. Fe wnes i gyfosod y delweddau mewn ymdrech i ddangos fy Ngymru i, a'r Cymru eiconig o berspectif allanol. Gosodais y tywysog siarl ar lun o fy nhad o flaen ffermdy, ladi gymreig dros lun ohona i a fy mrodyr, 2 lwy garu dros lun o fy rhieni mewn priodas, a llun o Shirley Bassey dros lun o fy ewythr yn cneifio.


Dwi'n awyddus i barhau gyda gwaith argraaffu, gyda haenau, a defnydd, a defnyddiau amgen, a gwaith brodwaith. Roedd darganfod y delweddau hyn yn gadarnhad fy mod yn parhau i weithio mewn dull sy'n driw i mi.


Y casgliad o waith nes i ddarganfod yn y cwpwrdd.


Hen waith
Dad o flaen Brynmeurig, ei gartref, gyda delwedd o'r tywysgo Siarl wedi ei osod drosto.

Hen waith
Fi a fy mrodyr o flaen y Landrover, gyda delwedd o ladis cymreig wedi ei osod drosto.

Hen waith
Fy Yncl Rich yn cneifio, gyda delwedd o Shirley Bassey wedi ei osod drosto.

hen waith
Fy rhieni mewn priodas, gyda delwedd o 2 llwy garu wedi ei osod drostynt.

Comments


bottom of page