top of page
elincrowley

BLOC CREADIGOL

Mae o wedi digwydd, does gen i ddim syniad be dwi'n neud, neu lle dwi'n mynd.


Yn ôl y sôn mae hyn yn rhan o'r broses. Dwi ar y cwrs MA ers 11 wythnos erbyn hyn, yn gweithio ling di long yn hapus, a wedyn BWM, mae popeth yr oeddwn i'n meddwl ym mod i eisiau cyflawni yn teimlo more arwynebol. Felly, ychydig o dyllu'n ddyfnach, edrych a gwrando, a dwi'n teimlo bod na newid yn digwydd yn ara bach.


Ffawd felly fy mod wedi ymweld ac arddangosfa cyfredol MOMA, Machynlleth, Artistiaid Ifanc Cymru, wedi ei guradu gan Mari Elin Jones a Lloyd Roderick. Yno roedd gwaith gan Ffion Griffiths, a'r datganiad ar y wal wnaeth argraff arnai, gwelwch isod.


Rwy'n edmygu ei gonestrwydd yn y datganiad. Mae o mor bersonol, ac mae'r potensial yno i'w gwneud hi'n agored i ymwelwyr ei barnu am beidio bod yn sicr yn y gwaith. Ond mae hyn i mi yn cryfhau'r gwaith. Y broses yw y celf.


Dyma linc i wybodaaeth am yr arddangosfa:


Artist statement at MOMA, Machynlleth. Young Artists exhibition.
Ffion Griffiths. Arddangosfa Artistiaid Ifanc Cymru, MOMA, Machynlleth.

MOMA exhibition, Young artist.
Ffion Griffiths, A Blank space, aml gyfrwng, 2022.

Comments


bottom of page