top of page
  • elincrowley

BRAIN AC WYN

Dwi'n ferch ffarm ac mae'r awydd i bortreadu realiti ffermio yn apelio mwy a mwy, o berspectif rhywun sy'n gwerthfawrogi'r aberth mae dynion a merchaid yn gwneud i barhau traddodiadau a ffordd o fyw sy'n aml wedi eu hetifeddu.


Dwi ddim yn ffarmwr, ond mae ffarmio a bywyd cefn gwlad yn rhan mawr o fy hunaniaeth.

Dwi'n gweithio fel artist ac i elusen Newid Hinsawdd - Maint Cymru (www.sizeofwales.org.uk).

Mae'r ddadl ffarmio yn codi yn aml- awgrym y byddai byta llai o gig neu stopio bwyta cig yn gyfan gwbwl yn lleihau effeithiau cynhesu byd eang. Mae'r mwyfrif o'r ffermydd o fy nghwmpas yn ffermio cig a'r radfa fach. Dwi'n aml yn teimlo fy mod yn eistedd ar y ffens, gan deimlo tosturi dros y blaned a cydnabod bod rhaid i ni newid ein ffordd o fyw i'w achub, ond hefyd gan deimlo'n angerddol am amddiffyn y diwylliant a'r traddodiadau sydd ynglwm a ffermio. Dwi'n grediniol os byddai pawb yn bwyta bwyd lleol sy'n gynaladwy, siwr y byddai'r ddadl yn un llai ymosodol.


Yma yng Nghanolbarth Cymru, yng nghanol Mynyddoedd Cambria, rydym ynghanol dadl ailwylltio, ac roedd darllen yr erthygl yma gan Ffion Jones sy'n ffermwraig ac yn ddarlithydd yn ddiddorol iawn i mi:


Mae ymchwil Ffion yn trafod -

“part of the failure of Rewilding Britain to establish their project within the Cambrian Mountain area relates to an underappreciation of the importance of situated knowledge, and that within the context of the polarising ideas of rewilding, sensitivity, and the need to listen to embodied, situated, agricultural knowledge and practice, should be taken seriously.”


Gallwch ddarllen yr erthygl llawn yma:


Mae erthygl Ffion yn dilyn astudiaeth PhD ymarferol a dangosiad y ffilm safle penodol hwn

yn sied her ffarm deuluol. Mae'r archwilio'r berthynas rhwng Ffion a'i theulu a'i defaid mynydd Cymreig sydd wedi cael ei bridio yno ers cenedlaethau. Gallwch weld y fideo yma;



Roedd gwaith Ffion o ddiddordeb mawr i mi ac yn berthnasol. Fe wnaeth godi teimladau nad o'n i'n sylweddoli oedd yno, ac wedi ei fynegi mewn ffordd na fedrwn i fyth. Roedd y gwaith yn brydferth ac yn drist ar yr un pryd.


Wythnos yma dwi di bod yn darlunio brain ac wyn. Mae brain yn pigo llygaid wyn a defaid byw tra mae nhw'n geni, mae'n greulon. Dwi'n defnyddio'r fran ar own fel symbol o gyferbyniadau ffermio, bywyd a marwolaeth, maethu a lladd, y caredig a'r creulon. Y reddf mamol/tadol sy'n cael ei troi i mlaen a ffwrdd mewn sefyllfaoedd gwahanol. Mae traddodiadau cyfarwydd yn cael ei etifeddu sy'n creu caledrwydd ac agweddau gwydn.



Yn 2019 fe wnaeth Chris Packham ddod yn destun dadl rhwng cadwraethwyr a ffermwyr tra'n ymgyrchu'n lleyddianus ar gyfer gwahardd yr hawl i saethu 16 math o aderyn, yn cynnwys y fran. Dyma erthygl gan Richard Godwin ysgrifenwyd i'r Guardian yn Mai 2019:



Eto, dadl amgylcheddol yn portreadu ffermwyr fel pobl creulon gyda meddyliau caedig. Dwi'n sicr y gallen ni gyd elwa o'r ‘situated knowledge’ mae Ffion Jones yn trafod, ac mae hyn yn fy marn i yn gymwys i bob unigolyn ar raddfa byd-eang.


Dwi'm yn honi i fod yn arbenigwr ar y pynciau hyn, mond rhannu fy mhrofiadau a sylwadau, ac mae gen i ddiddordeb mewn dysgu mwy ohyd. Dwi ofn mynegi fy hun mewn rhai sefyllfaoedd i osgoi dadl, a dwi ddim eisiau ymddangos yn anwybodus.


Dwi'n darlunio be dwi'n wbod rwan. Dyma dwi'n wbod.


crow, lamb, collagraph, printmaking, wales, farming
Plat collagraph wedi incio - Y fran a'r oen.

crow, lamb, collagraph, printmaking, wales, farming
Collagraph yn barod i brintio ar dirlun monoprint.

crow, lamb, collagraph, printmaking, wales, farming
Y fran a'r oen. Collagraph / monoprint. Yn harddu creulondeb cefn gwlad.





Comments


bottom of page