top of page
  • elincrowley

CARBORUNDUM

Yn dilyn tiwtorial Collagraph gyda Paul Croft yn yr Ysgol Gelf, Aberystwyth, cefais fy nghyflwyno i Carborundum. beth yw Carborundum? Math o ddawns? Cwestiwn dryslyd? Na, pwdr o Silicon Carbide ydy o sy’n cael ei ddefnyddio mewn technegau o greu platiau Collagraph. Mae’r pwdr yn cael ei ludo ar y plat sy’n creu gwead garw.

Heddiw fe gefais ddiwrnod yn y gweithdy yn arbrofi gyda’r defnydd newydd yma, a cefais lwyddiant ar y cyfan. Roeddwn yn awyddus i ddefnyddio inc llwyd yn ogystal a du, a’r un inc oedd gen i oedd yr inc arferol dwi’n defnyddio i rolio ar leino - ‘Graphic chemical ink’. Does y canlyniadau dim cystal a defnyddio’r inc intaglio arferol. Gweithiais ar fy astudiaeth o Gwawr Ifans sy’n ffrind/cyfieithydd/ffermwraig/gyflenwr cig oen lleol. Byddaf yn postio mwy am Gwawr unwiath bydd gen i fwy o esiamplau i ddangos.


argraffu
Elin ar draeth, Collagraph.

argraffu
Gwawr Ifans, Bryn Ucha, Llanymawddwy.

Argraffu
Gwawr Ifans, Bryn Ucha, Llanymawddwy.

Comments


bottom of page