Ar ddechrau fy ngwrs meistr Celf Gan ym mhrifysgol Aberystwyth, dwi’n teimlo’n ofnus ac yn gyffrous ar yr un pryd. Mae’r syniadau yn gwibio yn fy mhen yng nghanol y nos: delweddau, geiriau, ydw i ddigon da, pwy allai gydweithio gyda, beth ddaw ohono, lle dwi’n dechre.
Heddiw fe ges i’r cyfle i fynd i ddarlunio byw am y tro cyntaf ers fy nghwrs gradd yn 2003, bron i ugain mlynedd yn ol. Dwi’n ‘rusty’ a deud y lleia, ond buan daw yr hyder yn ôl.
Darluniad inc o fy ngwers dylunio byw cyntaf mewn 20 mlynedd!
Comments