Dwi’n aml yn cael fy atynu at bethau dwi’n tybio sy’n cael eu hanwybyddu yn aml, plat hyfryd, siapiau ar wal, drws sydd yn lliw glas hyfryd fel yr awyr.
Fe es ar wyliau i Roeg unwaith gyda ffrind, i ynys bach o’r enw Spetses. Gyda fy nghamera ffilm fe dynais luniau yn bennaf o waliau, drysau a ffenestri. Dwin cofio ei brawd hi’n deud wrthai drwy edrych ar y llunie, "dyma’r llunie gwyliau mwyaf diflas weles i erioed". Mae hyn dal yn neud I fi chwerthin, mae’n siwr bod o’n iawn yn doedd.
Arhosais mewn gwesty yng Nghaerdydd wythnos yma ac roedd na rhywbeth doniol am y brecwast, bacon a wy yn gwenu arnai, a soser gyda blodau hyfryd. Dwi’n hawdd fy mhlesio.



Comments